Cynulliad Cenedlaethol Cymru

National Assembly for Wales

Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau

Economy, Infrastructure and Skills Committee

Mynediad at Fancio

Access to Banking

EIS(5)AB06

Ymateb gan Cyngro Llyfrau Cymru

Evidence from Welsh Books Council

 


Rydym wedi gweld newid yn agwedd y banciau tuag at y Gymraeg dros y blynyddoedd diwethaf, gyda’r rhan fwyaf o wasanaethau bellach ddim ond ar gael drwy gyfrwng y Saesneg. Rydym yn parhau i dderbyn cyfriflen Gymraeg, ond mae’r holl ffurflenni yn gorfod cael eu paratoi yn Saesneg.

Rydym yn gresynu at ddiffyg dealltwriaeth y banciau o’r ffordd y mae’r sector gymunedol yn gweithredu – yn arbennig mewn sector lle mae’r gwirfoddolwyr sy’n rhedeg y Cyngor yn newid yn gyson, ond lle mae’r staff sydd yn gweinyddu cyllid ar ran yr elusen yn annhebygol o newid.

Gwrthodwyd mynediad i system BACS oherwydd eu bod yn ystyried maint yr elusen (trosiant o £7m) yn rhy fach i fod yn gymwys ar gyfer system BACS. Mae hyn wedi creu problemau gweinyddol dirfawr, ac yn golygu na allwn weithredu mor effeithiol â chwmnïau neu elusennau sydd â mynediad i system BACS.

Er bod cangen o’r banc yn Aberystwyth, nid ydym wedi cael cyswllt rheolaidd gydag un aelod o staff o fewn y banc, ac mae’r broses o geisio cael atebion yn gallu bod yn hirwyntog a heb ddatrysiad. Cafwyd problemau gyda cheisiadau mynych gan wahanol adrannau o’r banc am yr un wybodaeth at bwrpas diogelwch (safeguarding), ond eto, does yna’r un elfen o wasanaeth cwsmeriaid sydd yn cael ei darparu gan un gangen.

Mae nifer o’r cyhoeddwyr a’r siopau sy’n ymwneud â’r Cyngor Llyfrau wedi eu lleoli mewn ardaloedd gwledig, a gwyddom fod diffyg banc yn gallu achosi problemau sylweddol iddyn nhw – yn arbennig lle mae angen teithio am nad oes yr un banc yn yr ardal.

Nid yw’r banciau’n ymddangos fel petaen nhw’n awyddus i gefnogi busnesau bach, nac yn poeni am ansawdd gwasanaeth i’w cwsmeriaid, ac mae lle yn y farchnad i ddarparwr sydd yn wahanol, ac yn fwy agored i weithio mewn cydweithrediad ag elusennau a mudiadau gwirfoddol.

Byddai’r Cyngor Llyfrau yn falch o drafod y pwyntiau hyn, neu unrhyw beth arall am yr ymateb hwn, gyda Phwyllgorau, Ysgrifenyddion y Cabinet neu Weinidogion, os dymunir.